Ymgyrchu yng Nghymru

Read this page in English

Ychwanegu arthritis at yr agenda yng Nghymru

Click here for this page in English.

Nod ein hymgyrchoedd ydy cynnig newid gwirioneddol a thiriaethol i bobl gydag arthritis yng Nghymru.

Mae gwasanaeth rhewmatoleg pediatrig newydd i blant gydag arthritis wedi’i sefydlu yn Ysbyty Arch Noa i Blant yng Nghymru. Bu inni hefyd ymgyrchu’n llwyddiannus am strategaeth genedlaethol i wella gofal iechyd yn ymwneud ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Yn gynharach, bu inni arwain ymgyrch i gynnig presgripsiynau i bawb gyda chyflyrau iechyd parhaus yng Nghymru (bu i hyn arwain at gael gwared ar godi tâl am bresgripsiynau yng Nghymru).

Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae angen inni barhau i ymdrechu i leddfu poen arthritis ac rydym wrthi’n ymgyrchu mor weithgar ag erioed.

Yma mae gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno ymgyrchu yn ogystal â gwybodaeth i wneuthurwyr penderfyniadau fel Byrddau Iechyd, Aelodau’r Senedd a chynghorwyr. Bydd yr wybodaeth yn eich cynorthwyo chi i’n cynorthwyo ni i wneud newidiadau er lles y bobl gydag arthritis yn eich cymunedau chi.

Ymgyrchwyr – ymunwch gyda ni!

Mae gennym ni gymuned weithgar o ymgyrchwyr yng Nghymru sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth i bawb sy’n byw gyda chyflwr cyhyrysgerbydol yn y wlad. Mae sawl ffordd gallwch chi ymuno gyda ni…

Arwyddwch ein deiseb i gefnogi ein hymgyrch ‘Amhosib Anwybyddu’ i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau orthopedig.

Ymunwch gydag ein Rhwydwaith Ymgyrchoedd i dderbyn yr e-ddiweddariadau rheolaidd a ‘eweithrediadau’ rhwydd i’w defnyddio er mwyn cysylltu gyda’ch ASau lleol am ein hymgyrchoedd.

Mae ein Gwirfoddolwyr Gwneud Gwahaniaeth yn datblygu ein blaenoriaethau ymgyrchu, cynlluniau gweithredu ac yn ymwneud gyda gwneuthurwyr penderfyniadau eu hardal. Cysylltwch gyda ni i holi am ddisgrifiad o’r rôl.

Dilynwch ein ffrydiau Facebook a Twitter yng Nghymru i weld y diweddaraf am ein hymgyrchoedd.

Gallwch ddarllen ein Maniffesto ynghylch Etholiad Senedd Cymru 2021 yma (PDF 679 KB).

Os hoffech chi roi gwybod inni am fater yn eich ardal yr ydych yn credu y dylen ni ymgyrchu yn ei gylch, anfonwch e-bost atom ni.

Aelodau’r Senedd, Aelodau Seneddol, Cynghorwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill

Mae dros 870,000 o bobl yn byw gydag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol eraill yng Nghymru. Fe wyddom felly bod sawl un o ymgeiswyr y Senedd wedi gweld effaith sylweddol arthritis ar ansawdd bywyd a hynny’n sgil profiad personol neu brofiadau eu teuluoedd, ffrindiau neu gydweithwyr.

Mae angen eich cymorth chi arnom ni i ofalu caiff anghenion y rheiny sy’n byw gydag arthritis eu lleisio’n eglur yn y Senedd, yn San Steffan, yn ein cynghorau lleol ac yn ein Byrddau Iechyd.

Mae ein Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus yng Nghymru yma i gynnig gwybodaeth a’r ymchwil ddiweddaraf ar faterion polisi. Mae croeso ichi gysylltu gyda ni i drafod materion yn ymwneud â pholisau, ein hymgyrchoedd neu faterion eraill sy’n effeithio ar bobl gydag arthritis yn eich ardal.

Gallwch ddarllen ein Maniffesto ynghylch Etholiad Senedd Cymru 2021 yma (PDF, 679 KB)

Rydym yn falch o gynnig Pecyn Croeso i ASau 2021 (PDF, 2.4 MB) I helpu ASau i wneud gwahaniaeth I bobl ag arthritis yn eich etholaeth / rhanbarth. I ddod yn Hyrwyddwr Arthritis y Senedd, dylai ASau bostio 'selfie' gyda’r poster argraffadwy hwn (PDF, 122 KB) – mwy o fanylion ac eiriad awgrymedig ar gyfer post ar Twitter yn y Pecyn Croeso.

Mae ein hymgyrchoedd a blaenoriaethau polisi cyfredol yn ymwneud â’r canlynol:

  • Gofalu caiff y rheiny sy’n dal yn disgwyl am wasanaeth a’r amseroedd aros estynedig (ar ôl y pandemig) ar gyfer gwasanaethau orthopedig fel amnewid cymalau eu hystyried yn un o’r prif flaenoriaethau.
  • Gofalu bod y rheiny sy’n aros am amser maith ar gyfer gwasanaethau orthopedig yn derbyn pecyn cymorth wrth iddyn nhw aros mewn poen difrifol, sy’n gwaethygu, ar gyfer llawdriniaeth i newid eu bywydau.
  • Gofalu caiff y Fframwaith Cyhyrysgerbydol Cenedlaethol sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd ei gwblhau a’i weithredu’n gyfan gwbl ledled Cymru.

Cysylltwch gyda ni i weld paratoadau diweddaraf ac i drafod unrhyw un o flaenoriaethau’r ymgyrch uchod.

Mae ein gwasanaethau cefnogi yma i’ch etholwyr chi. Cofiwch hysbysu eich etholwyr perthnasol am ein llinell gymorth – 0800 5200 520. Bydd tîm ein llinell gymorth yn cynnig gwybodaeth wedi’i deilwra i’r unigolyn ynghyd â manylion am ein gwasanaethau yn eu hardal.

Maniffesto 2021 Cymru Versus Arthritis

Mae arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol ymysg yr achosion mwyaf o boen, anabledd a cholli diwrnodau gwaith. Mae ein maniffesto yn cynnig pedair prif alwad polisi sy’n hanfodol ar gyfer y pedair blynedd nesaf er mwyn trechu poen ac effaith arthritis.

Mae ein maniffesto yn galw am y canlynol:

  • Cynllun Adfer a Thrawsnewid Orthopedig Cenedlaethol.
  • Penodi Arweinydd Clinigol Y GIG ar gyfer Cyflyrau Cyhyrysgerbydol yng Nghymru.
  • Cefnogaeth i bobl gydag arthritis i weithio a diogelu iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle.
  • Cydnabod bod arthritis yn flaenoriaeth iechyd.

Gallwch fwrw golwg ar ein maniffesto cyflawn (PDF, 679 KB).